Psalms 62

Y Duw sy'n ein cadw'n saff

I'r arweinydd cerdd: Ar yr alaw "Cyffes". Salm Dafydd.

1Ydw, dw i'n disgwyl yn dawel am Dduw;
fe ydy'r un all fy achub i.
2Ie, fe ydy'r graig lle dw i'n ddiogel;
lle i mi gysgodi sy'n hollol saff.
3Pryd ydych chi'n mynd i stopio ymosod ar ddyn?
Ymosod arno i'w ddifa fel wal sydd ar fin syrthio,
neu ffens sy'n simsan?
4Ydyn, maen nhw'n cynllunio i'w fwrw i lawr
o'i safle dylanwadol.
Maen nhw wrth eu boddau gyda chelwydd;
maen nhw'n dweud pethau sy'n swnio'n garedig,
ond yn ei felltithio yn eu calonnau.

 Saib
5Ie, disgwyl di'n dawel am Dduw, fy enaid,
achos fe ydy dy obaith di.
6Fe ydy'r graig lle dw i'n ddiogel;
lle i mi gysgodi sy'n hollol saff.
7Mae Duw'n edrych ar ôl fy lles i,
ac mae'n rhoi nerth i mi.
Dw i'n gadarn fel y graig,
ac yn hollol saff gyda Duw.
8Gallwch ei drystio fe bob amser, bobl!
Tywalltwch beth sydd ar eich calon o'i flaen.
Duw ydy'n hafan ddiogel ni.

 Saib
9Dydy pobl gyffredin ddim byd ond anadl;
a pobl bwysig yn ddim ond rhith!
Rhowch nhw ar glorian ac mae hi'n codi! –
maen nhw i gyd yn pwyso llai nag anadl.
10Peidiwch trystio trais i ennill cyfoeth.
Peidiwch rhoi'ch gobaith mewn lladrad.
Os ydych chi'n ennill cyfoeth mawr
peidiwch dibynnu arno.
11Un peth mae Duw wedi ei ddweud,
ac mae wedi ei gadarnhau:
Duw ydy'r un nerthol,
12Ie ti, O Arglwydd, ydy'r un ffyddlon,
sy'n rhoi i bawb beth maen nhw'n ei haeddu.
Copyright information for CYM